BrianSHARPEDymuna Eirlys, Peter, Richard a'r teulu ddiolch i bawb am bob gair o gydymdeimlad a dderbyniwyd trwy gardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau yn ystod eu profedigaeth o golli gŵr, tad, taid a hen daid annwyl. Mawr ein diolch i deulu, cymdogion a ffrindiau am fod mor gefnogol ac i Feddygon a Staff Hafan Iechyd am eu gofal dros y blynyddoedd. Diolch i'r Canon Idris Thomas ac i'r Parchedig R.E. Hughes am eu gwasanaeth ddydd yr angladd, i Mrs Helen Wilcox yr Organyddes ac i John Davies a Peter am eu teyrngedau i Brian. Diolch hefyd am y rhoddion hael o £1055.00 tuag at Tŷ Gobaith Conwy ac i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau am fod mor drylwyr gyda'r trefniadau. Diolch yn fawr.
Keep me informed of updates